SL(5)296 - Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Cyflwynodd Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Hefyd, cyflwynodd Deddf 2016 gysyniad newydd o “gwasanaeth rheoleiddiedig”. Mae "gwasanaeth maethu" yn wasanaeth rheoleiddiedig, sydd wedi ei ddiffinio yn Neddf 2016 i olygu unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson ac eithrio awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol, sef lleoli plant gyda rhieni maeth neu arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â lleoliad o’r fath.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaethau maethu. Er enghraifft, o dan y Rheoliadau, rhaid i ddarparwyr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaethau maethu'n cael eu darparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol.

Y weithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd tri phwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae'r Rheoliadau yn cyfeirio at "darpar rieni maeth" mewn chwe lle. Fodd bynnag, nid yw'n glir beth yw ystyr "darpar rieni maeth" na phwy sy'n cael ei gwmpasu gan y term.

Mae'r diffyg eglurder yn destun pryder penodol o gofio bod y term "darpar rieni" yn gymwys mewn perthynas â throseddau. Er enghraifft, mae'n drosedd os yw darparwr gwasanaeth yn methu â llunio canllaw ar y gwasanaeth ar gyfer darpar rieni maeth, ymysg eraill (gweler rheoliad 12(2)(c)(ii)).

Dyma godi drachefn bryder a godwyd gennym o'r blaen, sef bod angen eglurder llwyr wrth ddiffinio troseddau newydd.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

O dan y Rheoliadau, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau wneud amrywiol hysbysiadau. Er enghraifft, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau hysbysu'r heddlu am unrhyw "honiad bod plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol." (gweler rheoliad 40(5) a pharagraff 40 o Atodlen 3). Mae'n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â gwneud hynny.

Fodd bynnag, nid yw'n glir beth yw "honiad" na beth yw "trosedd ddifrifol".

Dyma godi drachefn ein pryder bod angen eglurder llwyr wrth greu troseddau.

3. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn y diffiniad o "datganiad o ddiben" yn y testun Cymraeg, mae cyfeiriad at "Reoliadau Cofrestru 2018". Fodd bynnag, dylai'r cyfeiriad fod at "Reoliadau Cofrestru 2017".

Yn y cyd-destun, nodwn nad yw'r gwall hwn yn debygol o beri dryswch sylweddol yn ymarferol.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

 

Maeʼr term “darpar riant maeth” (“prospective foster parent”) wedi cael ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth syʼn ymwneud â darparu gwasanaethau maethu heb gael ei ddiffinioʼn benodol er 2003.  Hyd yma, nid yw darparwyr na defnyddwyr gwasanaethau maethu wedi codi unrhyw bryderon o ran ystyr y geiriau hynny.

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) a ddefnyddiodd y geiriau “darpar riant maeth” yn gyntaf, heb ddarparu diffiniad am y term hwnnw.  Nid yw darparwyr na defnyddwyr gwasanaethau maethu wedi codi unrhyw gwestiynau o ran ystyr y geiriau “darpar riant maeth” o dan Reoliadau 2003, ac felly ystyrir eu bod yn fodlon bod iʼr geiriau hyn yr ystyr Saesneg arferol, sef person syʼn bwriadu dod yn rhiant maeth yn y dyfodol, ond nad yw wedi ei gymeradwyo felly eto. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) yn parhau i ddefnyddioʼr un derminoleg, ar y sail ei bod yn hysbys ac yn cael ei defnyddioʼn helaeth yn y sector, yng Nghymru ac yn Lloegr. 

Defnyddir y geiriau “darpar riant maeth” hefyd yng nghyd-destun troseddau yn Rheoliadau 2003. Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr wneud copïau oʼr datganiad o ddiben sydd ar gael i ddarpar rieni maeth, ac mae methu â gwneud hynny yn drosedd o dan reoliad 48.  Felly, mae darparwyr wedi bod yn bodloniʼr gofyniad hwn ers blynyddoedd lawer ac nid ydynt erioed wedi cwestiynu natur na graddau eu rhwymedigaethau o dan yr amgylchiadau hyn.  Mae rheoliadau 4(4)(d) a 12(2)(c)(ii) o Reoliadau 2019 yn gosod gofyniad tebyg ar ddarparwyr, sef eu bod yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau maethu roi hysbysiad o unrhyw newidiadau iʼr datganiad o ddiben a chopi oʼr canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth i ddarpar rieni maeth.  Unwaith eto, mae methu â gwneud hynny yn drosedd. Cymerodd darparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau maethu annibynnol ran lawn yn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn, ac ni chodwyd unrhyw bryderon ganddynt fod y rhwymedigaethau a oedd yn cael eu gosod arnynt mewn cysylltiad â darpar rieni maeth yn aneglur mewn unrhyw ffordd.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 yn cyfeirio at y geiriau “darpar rieni maeth”, ac maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau maethu roi hysbysiad o unrhyw newidiadau iʼr datganiad o ddiben a chopi oʼr canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth i ddarpar rieni maeth. 

Mae Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 yn cyfeirio at “darpar rieni maeth” hefyd.  

2. Standing Order 21.2(v) - that for any particular reason its form or meaning needs further explanation – notification of any allegation that a child placed with foster parents has committed a serious offence (regulation 40(5) and paragraph 40 of Schedule 3)

Ymateb y Llywodraeth

Maeʼr gofyniad hysbysu hwn wedi bod yn ei le ers 2003 a, hyd yma, nid yw darparwyr wedi codi unrhyw bryderon o ran natur a graddauʼr rhwymedigaeth hon.

Mae paragraffau 27 a 40 o Atodlen 3 i Reoliadau 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau maethu hysbysuʼr awdurdod lleol a leolodd y plentyn maeth aʼr heddlu os oes unrhyw honiad bod plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.  Gosodwyd yn union yr un rhwymedigaethau hysbysu yn gyntaf o dan reoliad 43 o Reoliadau 2003 ac Atodlen 8 iddynt, ac felly mae hwn yn ofyniad sydd wedi cael ei fodloni gan ddarparwyr gwasanaethau maethu ers blynyddoedd lawer.  Nid yw darparwyr erioed wedi codi unrhyw gwestiynau o ran ystyr y geiriau hyn, ac felly ystyrir eu bod yn fodlon bod yr ystyr Saesneg arferol yn gymwys yma, sef unrhyw drosedd honedig syʼn bwysig ac syʼn haeddu sylw. 

Mae paragraffau 27 a 40 o Atodlen 3 iʼr Rheoliadau hyn yn atgynhyrchuʼr gofynion hysbysu a osodir o dan reoliad 60 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 a pharagraffau 29 a 39 o Atodlen 3 iddynt. Mae Rheoliadau 2017 wedi bod mewn grym es 2 Ebrill 2018, ac nid yw unrhyw ddarparwyr wedi codi unrhyw bryderon hyd yma eu bod yn aneglur o ran natur a graddau eu rhwymedigaethau o dan baragraffau 29 a 39 o Atodlen 3 iʼr Rheoliadau hynny.   

 

 

3. Standing Order 21.2(vi) - that its drafting appears to be defective or it fails to fulfil statutory requirements

In the definition of “datganiad o ddiben” in the Welsh text, there is reference to “Reoliadau Cofrestru 2018”. However, the reference should be to ”Reoliadau Cofrestru 2017”.

Ymateb y Llywodraeth

Cydnabyddwn y pwynt hwn a gwneir diwygiad ar y cyfle nesaf sydd ar gael.

 

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

7 Ionawr 2019